Bioddiogelwch
Mae bioddiogelwch yn allweddol i warchod Dalgylch y Ddyfrdwy rhag bygythiad Rhywogaethau Estron Ymledol.
Mae pawb sy’n ymweld â chorff o ddwr yn gyfrifol am helpu i osgoi ymlediad rhywogaethau estron ar eu dillad, eu hoffer a phopeth arall sy’n dod i gysylltiad â dwr. Mae posib lledu RhEY mewn unrhyw ddwr neu ddeunydd a symudir i neu o leoliad ac felly os ydych chi’n ymweld â chorff o ddwr, mae risg go iawn y gallech chi ledaenu organebau niweidiol oni bai eich bod yn cadw at arferion bioddiogelwch da.
Beth yw bioddiogelwch?
Ystyr bioddiogelwch yw cymryd camau i sicrhau bod arferion da yn eu lle i leihau’r risg o ledaenu RhEY. Mae arferion bioddiogelwch da’n hanfodol er mwyn atal lledaeniad RhEY, plâu a chlefydau, hyd yn oed os nad ydynt yn amlwg ar y safle.
Sut mae bod yn fio-ddiogel:
Camau gweithredu i bawb, bob amser!
- Gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o’r rhywogaethau estron blaenoriaeth.
- Os yn bosib, dylid gosod posteri ac arwyddion yn eu lle i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r risg, ac i gynnig cyngor ar sut mae atal lledaenu.
- Yn ddelfrydol, dylid cyfyngau ar fynd i mewn ac allan o’r dwr i un man os yn bosib.
- Gall unrhyw safle fod â rhywogaethau estron ymledol a chlefydau y gellir eu lledaenu drwy ddillad ac offer llygredig, felly mae bioddiogelwch da’n bwysig bob amser. Cofiwch: pawb, bob amser, ym mhob man.
- Os ydych chi’n ymweld â safle sydd â rhywogaethau estron ymledol, mae’n rhaid i chi sicrhau nad ydych yn eu lledaenu. Mae methu gwneud hynny’n arwain at risg o gael eich erlyn o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
- Gellir lleihau’r risg drwy leihau amser cyswllt yr offer a’r dwr.
- Gallai unrhyw beth sy’n dod i gysylltiad â’r dwr, gan gynnwys esgidiau, ledaenu rhywogaethau estron yn ddamweiniol, felly dylid eu glanhau’n ofalus.
- Dylech gario pecyn bioddiogelwch syml fel yr un sydd wedi’i gynllunio ar gyfer prosiect RhEY y Ddyfrdwy isod gyda chi. Mae’n cynnwys: canllaw adnabod RhEY sy’n dal dwr, cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr, brwsh i lanhau gwaelod eich esgidiau a brwsh bychan.